top of page
ateasevalphillips

Goresgyn Heriau gyda Meddwlgarwch

Updated: Oct 4

Gall ymarfer meddwlgarwch fod yn fuddiol iawn wrth geisio lleihau straen, helpu i ganolbwyntio, a gwella lles yn gyffredinol. Er hyn, mae'n arferol i wynebu heriau ar hyd y daith. Dyma ychydig o tips i oresgyn heriau sy'n codi wrth geisio ymarfer a defnyddio meddwlgarwch:


Diffyg Amynedd neu Rwystredigaeth:

Her: Mae'n naturiol i deimlo diffyg amynedd neu rwystredigaeth os nad wyt ti'n gallu tawelu dy feddyliau na phrofi buddion meddwlgarwch yn syth bin.

Datrysiad: Deall taw sgil sy'n datblygu dros amser yw meddwlgarwch. Bydd yn amyneddgar gyda dy hun a cheisia osgoi barnu. Derbyn y bydd dy feddwl yn crwydro, tyrd a dy hun yn ol i dy ganolbwynt dewisiedig (e.e. dy anadl).


Diffyg Amser:

Her: Mae sawl person yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i ymarfer meddwlgarwch.

Datrysiad: Dechreua gyda ymarferion bach, cynaliadwy. Gall cwpwl funudau o feddwlgarwch y dydd fod yn effeithiol iawn! Mae modd i ti ymarfer meddwlgarwch wrth wneud gweithgareddau dydd i ddydd fel bwyta, cerdded, neu wrth drafnidio. Does dim wastad angen amser hir, penodedig.



Cysondeb:

Her: Gall ymarfer meddwlgarwch yn gyson fod yn anodd.

Datrysiad: Creu amser rheoliadd i ymarfer meddwlgarwch. Defnyddia 'ap' neu nodyn i atgoffa dy hun, neu mi allet ti gynnwys meddwlgarwch fel rhan o dy weithgareddau dydd i ddydd. Gwna'r peth yn elfen di-drafodaeth o dy ddiwrnod, yn union fel brwsio dy ddannedd.


Anesmwythder neu Ddiflastod:

Her: Mae rhai yn gweld meddwlgarwch yn ddiflas neu yn teimlo'n anesmwyth wrth fyfyrio.

Datrysiad: Arbrofa gyda thechnegau meddwlgarwch. Rho gynnig ar fyfyrio wrth gerdded, sganio'r corff, bwyta gyda meddwlgarwch. Mae hefyd yn bwysig i gydnabod anesmwythder neu ddiflastod fel rhan o dy brofiad heb farnu dy hun. Mae modd addasu meddwlgarwch i siwtio dy bersonoliaeth a dy hoffderau.


Anghyfforddusrwydd Corfforol:

Her: Gall osgo neu deimladau corfforol anghyfforddus ddenu sylw yn ystod meddwlgarwch.

Datrysiad: Gwna'n siwr dy fod mewn safle cyfforddus wrth eistedd neu orwedd, defnyddia propiau (e.e., blanced neu glustod), ac addasu dy osgo fel mae angen. Cydnabydda anghyfforddusrwydd heb farnu, ac os mae'n osgoi ti rhag dal ati, yna gwna dy orau i addasu dy safle nes wyt ti'n gyfforddus cyn parhau gyda dy ymarferion.



Canlyniadau Anghyson:

Her: Efallai na wnei di ohyd brofi yr un math o ymlacio na chanolbwyntiad yn ystod meddwlgarwch.

Datrysiad: Bod yn bresenol yw nod meddwlgarwch, doed a ddêl. Paid a dal yn rhy dynn i ganlyniadau penodol. Gall buddion meddwlgarwch fod yn hiroes, tydi pawb ddim yn gweld newidiadau dros nos.


Hunanfeirniadaeth:

Her: Mae bod yn gás gyda dy hun am beidio bod yn ddigon "da" wrth ymarfer meddwlgarwch yn gallu bod yn faen tramgwydd i'r profiad.

Datrysiad: Tyrd at feddwlgarwch gyda hunan-dosturi. Bydd yn garedig a cheisia ddeall dy hun, yn union fel y buasai ti gyda ffrind. Cofia, mae'n naturiol i brofi emosiynau a meddyliau dwfn yn ystod meddwlgarwch; mae'n rhan o'r ymarfer.


Colli Cymhelliant:

Her: Mae'n bosib colli cymhelliant dros amser, yn enwedig os nad wyt ti'n sylwi ar ganlyniadau yn sydyn.

Datrysiad: Atgoffa dy hun pam y gwnest ti ddechrau ymarfer meddwlgarwch. Cofia bod hyn yn daith gydol oes, a fel arfer dim ond amser sy'n dangos ffrwyth dyfalbarhad gyda meddwlgarwch.


Ceisio Cymorth:

Os wyt ti'n parhau i gael trafferth goresgyn heriau gyda ymarfer meddwlgarwch, mae'n bosib i ti dderbyn cymorth gan athro meddwlgarwch hyfforddiedig neu siarad gyda therapydd neu gwnselydd proffesiynol. Mae'r bobl yma'n gallu darparu canllawiau wedi'w personoleiddio a chyfeirio at heriau penodol rwyt ti'n eu gwynebu.


Cofia, 'presennol nid perffaith' yw nod meddwlgawrch. Gall bod yn bresennol deimlo'n wych neu'n anghyfforddus ar y pryd, ond mae dygymod â hyn a dychwelyd yn gyson at ymarfer meddwlgarwch gydag agwedd agored a di-farn yn gallu arwain at newidiadau buddiol, mawr dros amser.


@Ease Creative Integrative Therapies with Val Phillips 2023

4 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentarios


bottom of page